
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed
Tous les épisodes
Pwy nesa' i Gaerdydd?
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod pwy all Gaerdydd benodi fel rheolwr ar ôl diswyddo Neil Harris, ac ymateb i benderfyniad Jaye Ludlow i adael Cymru.
...plusHwyl fawr Gareth Blainey - yr unig un i allu cau ceg Malcolm Allen!
Wrth i'w yrfa o dros 30 mlynedd ddod i ben gyda BBC Cymru, Gareth Blainey sy'n ymuno gyda Malcolm ac Owain i drafod rhai o'i uchafbwyntiau - ac ambell isafbwynt!
...plusGwobrau 2020 ac 'un cyri yr wythnos'
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych nôl ar 2020 cyn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod - ac yn datgelu adduned syfrdanol blwyddyn newydd.
...plus"Dim ond un seren..."
Ymunwch gyda Mal ac Owain am barti Nadolig arbennig iawn Y Coridor Ansicrwydd - sy'n cynnwys fersiwn unigryw o gân Delwyn Siôn Un Seren!
...plusDadansoddi'r darbi, blinder a rheol Bosman
Owain a Mal sy'n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Abertawe yn erbyn Caerdydd ac yn gofyn os oes na ormod o gemau hyn o bryd. Ac mae gan Owain llawer i ddiolch i Jean-Marc Bosman.
...plusGwennan Harries: O'r cwrt cosbi i'r pwynt sylwebu
Cyn ymosodwr Cymru ac Everton Gwennan Harries sy'n ymuno gyda Mal ac Owain i drafod ei dyddiau chwarae a'i gyrfa newydd tu ôl i'r meic - ac yn cymharu anafiadau pen-glin difrifol!
...plusFfilmio Wrecsam, adfywiad Caerdydd a chroesawu cefnogwyr (yn Lloegr)
Wrth i'r ffilmio gychwyn ar gyfer rhaglen ddogfen Wrecsam, Owain a Mal sy'n trafod yr effaith posib ar y maes ymarfer a phwy oedd yn hoffi sylw'r camerâu yn eu cyfnod nhw
...plus"Nes i ddysgu lot gan Maradona - sut i beidio pasio!"
Marc Lloyd Williams, prif sgoriwr yn hanes Uwch Gynghrair Cymru, sy'n ymuno gyda Mal ac Owain i rannu rhai o'i gyfrinachau sgorio a trafod ei lwyddiant diweddar fel hyfforddwr.
...plusAdran A amdani!
Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn llawn canmoliaeth ar ôl i Gymru sicrhau dyrchafiad i Adran A yng Nghynghrair y Cenhedloedd
...plusOsian Roberts: O Fôn i Foroco
Cyn is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, sy'n ymuno efo Owain a Mal i drafod ei flwyddyn gyntaf yn gweithio ym Moroco a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
...plus"Mae unrhyw bwynt oddi cartref yn bwynt da"
Meilir Owen - sylwebydd efo Radio Cymru am 30 mlynedd - sy'n rhoi'r byd pêl-droed yn ei le efo Owain a Malcolm. A sut fydd Rob Page yn dylanwadu ar garfan Cymru?
...plusPwy yw gôl-geidwad Giggs?
Malcolm ac Owain sy'n trafod colled tîm merched Cymru, dilema gôl-geidwad Giggs a'r gyfres newydd o 'I'm A Celebrity'.
...plusRhodri Meilir
Yr actor Rhodri Meilir, cefnogwr brwd Everton, sy'n dadansoddi'r gêm ddarbi yn erbyn Lerpwl efo Owain a Malcs, ac yn trafod ei yrfa ar y sgrin ac yn y theatr.
...plusPwynt gwerthfawr yn Nulyn?
Ar ôl gêm ddi-sgôr diflas i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, mae tactegau y rheolwr Ryan Giggs yn dechrau poeni Owain a Malcs.
...plus"Does dim gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr!"
Owain a Mal yn edrych ymlaen at yr her sy'n wynebu Cymru yn Wembley, yn cofio'r cynnwrf yn Lens ac yn crafu pen ar ôl crasfa Lerpwl.
...plusWaynne Phillips
Curo Arsenal, gyrru gwyllt Mickey Thomas, parch at Brian Flynn - mae gan Waynne Phillips atgofion lu o'r dyddiau da ar y Cae Ras. Ac yn gobeithio am fwy diolch i sêr Hollywood..
...plusThiago v OTJ
Be ddigwyddodd pan oedd rhaid i Owain drio marcio Thiago Alcantara, seren newydd Lerwpl? Ac mae Mal yn cael trafferth mawr efo alpaca!
...plusJohn Hartson
Cyn ymosodwr Cymru sy'n trafod ei yrfa liwgar a'r gwersi mae o wedi ei ddysgu ar hyd y ffordd. Ac wrth gwrs, mae yna ddigon o drafod am ddyfodol Gareth Bale!
...plusChwe phwynt, Ampadu a darogan y dyfodol
Owain a Malcolm sy’n asesu dwy fuddugoliaeth Cymru ac yn rhoi eu pennau ar y bloc ar drothwy tymor newydd
...plusLlwyddiant yn Ewrop a charfan Cymru
Dathlu canlyniadau'r Bala ac YSN ac ydi Malcolm wedi newid ei feddwl am Hal Robson-Kanu?
...plusTa-ta tymor 2019-2020
Rheolwr y tymor? Chwaraewr y tymor? Gêm y tymor? Dyma farn Owain a Malcolm
...plusBryn Terfel
Bara brith a chwisgi efo Syr Alex, cyfarfod Clint Eastwood, gwylio Gareth Bale yn ymarfer gyda Real Madrid - roedd gan Syr Bryn Terfel atgofion lu i'w rhannu efo Malcs ac Owain
...plusOwen Powell - Caerdydd, Cymru a Catatonia
Y gitarydd Owen Powell (Catatonia, Crumblowers a Mr) sy’n rhannu straeon roc a rôl a phêl-droed - ac yn creu grŵp newydd gyda Malcolm!
...plusAr VAR'enaid i!
Mae Malcs wedi cael llond bol o VAR, tra bod trafferthion gwallt OTJ yn parhau
...plusJoe Allen
Arwr Cymru Joe Allen sy'n ymuno am sgwrs efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen
...plusY Cymro perffaith
Pa chwaraewyr fydda Owain a Malcs yn eu cyfuno i wneud y Cymro perffaith? A llawer mwy!
...plusY pêl-droediwr perffaith
Sut fydda Owain a Malcs yn mynd ati i greu'r chwaraewr perffaith?
...plusY pump fflop
Malcolm ac Ows yn troi'n gas wrth ddewis chwaraewyr mwyaf siomedig Uwch Gynghrair Lloegr
...plusGôls, gôls a mwy o gôls!
Owain a Malcs sy'n dewis eu hoff ymosodwyr sydd heb chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr
...plusPump disglair Uwch Gynghrair Cymru
Pwy yw'r goreuon yn hanes Uwch Gynghrair Cymru? Mae 'na enwau mawr heb wneud y rhestr!
...plusCymry gorau Uwch Gynghrair Lloegr
Owain a Malcs yn dewis pump chwaraewr o Gymru sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Lloegr
...plusAllen/Brailsford
Syr Dave Brailsford, hen ffrind Malcolm, sy'n ymuno efo'r hogia am sgwrs
...plusBe sy' ar y bocs?
Malcs ac Owain sy’n trafod be ma nhw di bod yn ei wylio ar y teledu ac yn dyfalu sut siap fydd ar y byd pel droed pan ddaw nol?
...plusDau Gymro yn Watford - Rhan 2
Cwffio yn China a partis Elton John – mwy o hanes Iwan Roberts a Malcolm Allen yn Watford
...plusDau Gymro yn Watford - Rhan 1
Iwan Roberts yn ymuno â Malcolm ac Owain i gofio am eu dyddiau cynnar yn Watford
...plusDylanwad rheolwyr – y da y drwg a'r gwirion!
Mae Malcolm yn dal i drio perffeithio’i sgiliau yn yr ardd gefn, tra fod yntau ac Owain yn trafod eu rheolwyr gorau, rheolwyr gwaetha ac ambell i un gwirion!
...plusHunan-ynysu, prinder cyris ac Ian Rush
Owain a Malcolm sy'n rhannu eu profiadau o hunan-ynysu ac yn gofyn 'be nesa'i bȇl droed?'
...plusHel atgofion – goliau cyntaf a mwy
Owain a Malcolm yn cofio eu goliau cyntaf a Malcs yn ail fyw ei gôl enwocaf dros Gymru!
...plusEffaith y Coronafirws ar bêl-droed
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy’n trafod effaith y coronafeirws ar bêl-droed
...plusAnaf Joe Allen, Man United a triciau budur!
Owain a Malcs yn ymateb i’r newydd am anaf Joe Allen ac effaith Coronafeirws ar bêl-droed
...plusLerpwl, Cynghrair y Cenhedloedd a twf gêm y merched
Owain a Malcs yn bwrw golwg dros hynt a helynt y byd pêl-droed gan gynnwys canlyniadau gwael Lerpwl a’r amddiffynnwyr sydd yn awyddus i greu argraff ar Ryan Giggs.
...plusY ffeit fawr, VAR a debut Ows Llyr
Owain a Malcs gyda’i golwg unigryw ar ddigwyddiadau’r byd pêl-droed a llawer mwy gan gynnwys buddugoliaeth Tyson Fury
...plusTrafferthion Man City, storm Dennis a gwesteion pryd bwyd delfrydol!
Owain a Malcs a'u golwg unigryw ar ddigwyddiadau’r byd pêl-droed gan gynnwys helyntion diweddaraf Manchester City, effaith gwefannau cymdeithasol ar iechyd meddwl a pwy fydde'u gwesteion pryd bwyd delfryfol
...plusGiggs, Everton a siwmper Malcs!
Owain a Malcs sy'n trafod Ryan Giggs, y ddau Ronaldo, adfywiad Everton a llawer mwy.
...plusLerpwl, Cei Conna a bwyd!
Owain a Malcolm sy'n trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG, rhediad Lerpwl a llawer mwy.
...plusDyfodol Joe Allen, Y Swltan a Cwpan Cymru
Owain a Malcolm yn trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys Joe Allen, Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr a Cwpan Cymru.
...plusRhys Meirion, dyddiau tywyll Man Utd a deuawd gyda Malcolm...
Y canwr a chyflwynydd Rhys Meirion sy'n cadw cwmni i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen
...plusMoore. Mepham a Wrecsam
Owain a Malcolm yn trin a trafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys darbi de Cymru, Caerdydd yn ceisio arwyddo Kieffer Moore a Wrecsam.
...plusCwpan yr FA, Neco Williams a Joe Ledley
Owain a Malcolm sy'n trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt.
...plusBlwyddyn Newydd Dda!
Owain a Malcolm sy'n edrych nôl ar uchafbwyntiau’r byd pêl-droed yn 2019 ac yn edrych ymlaen i’r flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys Ewro 2020!
...plus